Quick links


Catch22 events


22 June 2012
Cycle London to Paris Challenge
This long-weekend challenge links two great European cities, London and Paris, covering around 300km in just three days. More...

08 July 2012
British 10K London Run
Run this iconic 10km race and take in the buzz of London as the city prepares for the Olympic Games. More...

Gwireddu Uchelgais

Mae’r broses ymgeisio yn awr ar gau a bydd penderfyniadau ynglŷn â pha ymyrraethau a fydd yn cael eu hariannu yn cael eu gwneud yn ystod mis Mawrth.

Mae rhaglen ‘Gwireddu Uchelgais’ y Gronfa Loteri Fawr yn fenter ledled y DU fydd yn buddsoddi £25m mewn prosiectau sydd wedi profi fydd yn gwneud gwir wahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc sydd mewn perygl o droseddu, fel y gallant gyflawni eu potensial. Bydd y rhaglen yn gwneud hyn trwy helpu i ddyblygu’r arfer gorau oll seiliedig ar dystiolaeth fel bod mwy o blant a phobl ifanc yn derbyn yr ansawdd gorau o ran gwasanaeth.

Beth yw nod rhaglen Gwireddu Uchelgais?

Mae rhaglen Gwireddu Uchelgais am gael y deilliannau canlynol:

Cael mwy o blant a phobl ifanc i fanteisio ar gyfleoedd a chefnogaeth gan eu galluogi i gyflawni eu potensial, gan osgoi llwybrau i droseddu

Trefnu fod gan fudiadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc well tystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio er mwyn osgoi llwybrau i droseddu ieuenctid a’u bod yn gallu dyblygu’r agweddau mwyaf effeithiol

Loteri Fawr ac eraill yn dysgu beth yw’r ffordd orau i adnabod a chefnogi dyblygu arfer profedig

Sut y bydd y rhaglen Gwireddu Uchelgais yn cyrraedd y deilliannau hyn?

Mae’r rhaglen Gwireddu Uchelgais am gyrraedd y deilliannau hyn trwy ddyblygu ymyriadau, hynny yw, prosiectau neu raglenni, a brofwyd i wyro plant a phobl ifanc oddi wrth lwybrau i droseddu, neu leihau ffactorau risg sy’n gysylltiedig â llwybr i droseddu.

Mae ‘dyblygu’ yn golygu lledaenu ymyriad profedig i feysydd daearyddol eraill neu at gynulleidfaoedd eraill neu wahanol o blant a phobl ifanc. Ni fydd rhaglen Gwireddu Uchelgais yn cefnogi mudiadau nad ydynt ond eisiau ehangu, h.y., cynyddu nifer y plant a phobl ifanc sy’n derbyn gwasanaeth ar hyn o bryd heb ledaenu at gynulleidfaoedd newydd a/neu wahanol.

Ym mis Awst, penododd BIG gonsortiwm dan arweiniad Catch22, gan weithio gyda’r Sefydliad Ifanc, yr Uned Ymchwil Cymdeithasol, Rathbone a Substance, i nodi 20 o’r ymyriadau gorau ar draws y DU allai fod yn addas i’w dyblygu.