Quick links
- Cyllid a chefnogaeth
- Sut y caiff ceisiadau eu hasesu?
- Safonau Tystiolaeth
- Esiamplau o ddyblygu
- CC Gwireddu Uchelgais
- Geirfa termau
- Cyswllt
Catch22 events
22 June 2012
Cycle London to Paris Challenge
This long-weekend challenge links two great European cities, London and Paris, covering around 300km in just three days. More...
08 July 2012
British 10K London Run
Run this iconic 10km race and take in the buzz of London as the city prepares for the Olympic Games. More...
CC Gwireddu Uchelgais
Mae’r broses ymgeisio yn awr ar gau a bydd penderfyniadau ynglŷn â pha ymyrraethau a fydd yn cael eu hariannu yn cael eu gwneud yn ystod mis Mawrth.
1. Beth yw nod rhaglen Gwireddu Uchelgais?
Prif nod rhaglen Gwireddu Uchelgais yw i fwy o blant a phobl ifanc elwa o’r cyfleoedd a’r gefnogaeth orau oll sydd wedi ei brofi i’w helpu i gyflawni eu potensial ac osgoi mynd i lawr y llwybr at droseddu. Trwy raglen Gwireddu Uchelgais yr ydym yn ceisio gwneud y canlynol:
- Helpu mwy o blant a phobl ifanc i elwa o gyfleoedd a chefnogaeth i gyflawni eu potensial ac osgoi mynd i lawr y llwybr at droseddu.
- Cefnogi mudiadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc i gael gwell tystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio ac i ddyblygu’r agweddau mwyaf effeithiol.
- Helpu’r Gronfa Loteri Fawr ac eraill i ddysgu beth yw’r ffordd orau i adnabod a chefnogi dyblygu polisïau ac arferion profedig.
2. Pa blant a phobl ifanc mae rhaglen Gwireddu Uchelgais am eu cefnogi?
Bydd rhaglen Gwireddu Uchelgais yn cefnogi ymyriadau cyffredinol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc 8-14 oed i atal problemau rhag digwydd i ddechrau, neu ymyriadau cynnar wedi eu targedu syd dyn ymdrin â grwpiau penodol o blant a phobl ifanc 8-14 oed sydd mewn mwy o berygl o droseddu, megis y rhai gyda:
- Phroblemau camddefnyddio cyffuriau a sylweddau
- Problemau gydag addysg neu’r ysgol megis cael eu bwlio neu eu heithrio, neu fod yn unig wedi newid ysgol
- Problemau teuluol a pherthynas, megis rhieni yn ymdopi gyda thrais yn y teulu neu lle mae aelodau’r teulu neu gyfoedion eisoes yn troseddu
- Problemau personol, ymddygiad, emosiynol, anawsterau dysgu neu broblemau iechyd meddwl
- Materion economaidd, cymdeithasol a chymunedol, megis diweithdra, tai gwael, byw mewn ardal ddifreintiedig neu lle mae llawer o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Grwpiau bregus, er enghraifft, pobl mewn gofal neu bobl ifanc sydd wedi gwahanu oddi wrth eu teuluoedd.
3. Beth ydych chi’n olygu wrth ddyblygu?
Mae dyblygu yn golygu lledu ymyriad profedig i ardaloedd daearyddol newydd neu gynulleidfaoedd newydd/gwahanol o blant a phobl ifanc. Mae’n wahanol i ehangu, sef dim ond cynyddu nifer y bobl ifanc sy’n cael eu gwasanaethu ar hyn o bryd. Mae gwahanol ffyrdd o ddyblygu arfer da. Mae’r sawl sydd yn cyflwyno ymyriad llwyddiannus yn aml mewn sefyllfa dda i’w ddyblygu eu hunain, ond efallai bod arnynt angen help a chefnogaeth i wneud hyn. Neu hwyrach y buasai yn briodol iddynt fasnachfreintio neu ddod yn bartner gyda mudiadau eraill, neu rannu eu harfer mewn gwahanol ffyrdd. Yr ydym yn defnyddio’r term ‘dyblygu’ am yr holl agweddau hyn. Ni fyddwn yn rhy ddeddfol am y math o weithgareddau dyblygu y byddwn yn eu cyllido. Yr ydym yn cydnabod fod yn rhaid i’r ffordd o ddyblygu’r arfer gorau gael ei deilwrio i weddu i anghenion y sawl sy’n elwa a’r mudiadau dan sylw.
4. Pa fath o wasanaeth neu weithgareddau ydych chi’n ddisgwyl i’r ymyriadau a ddewisir ar gyfer dyblygu eu darparu?
Fe wyddom fod ymyriadau eithriadol yn bodoli leded y DU sydd yn rhoi cyfleoedd a chefnogaeth gadarnhaol i blant a phobl ifanc i’w helpu i gyrraedd eu potensial. Yr ydym eisiau bod gyda’r ymyriadau hyn sydd eisoes wedi profi eu bod yn effeithiol, gan ddarparu cyllid a chefnogaeth arbenigol fel y gallant fod o les i fwy fyth o blant a phobl ifanc.
Yr ydym yn targedu rhaglen Gwireddu Uchelgais ar blant a phobl ifanc 8-14 oed, gan fod tystiolaeth yn awgrymu mai dyma’r ystod oedran allweddol lle gall atal ac ymyriad cynnar wneud gwahaniaeth mawr i wyro plant a phobl ifanc ymaith oddi wrth droseddu a’r system cyfiawnder troseddol. Nid ydym yn diffinio’r union wasanaethau na’r gweithgareddau y disgwyliwn weld eu cyflwyno. Fodd bynnag, yr ydym yn disgwyl y bydd ymyriadau yn canoli ar weithgareddau neu gefnogaeth ataliol a gwyro sydd yn lliniaru’r ffactorau risg cysylltiedig â throseddu ieuenctid.
5. Ydych chi’n disgwyl i fudiadau sy’n gwneud cais i raglen Gwireddu Uchelgais i fod yn gweithio gydag unrhyw asiantaethau penodol, fel yr heddlu?
Na, rydym yn disgwyl i fudiadau sy’n gwneud cais i raglen Gwireddu Uchelgais i fod yn gweithio gydag ystod o bartneriaid, yn lleol a chenedlaethol. Nid ydym yn nodi pwy ddylai’r partneriaid hyn fod, ond bydd angen i fudiadau ddangos sut y byddant yn cyrraedd y gymuned darged a dweud os/sut y bydd partneriaethau yn bwysig o ran dyblygu’r ymyriad yn llwyddiannus.
6. A yw rhaglen Gwireddu Uchelgais yn canolbwyntio ar gefnogi plant a phobl ifanc mewn lleoliadau arbennig, megis ysgolion neu yn y gymuned?
Na, mae rhaglen Gwireddu Uchelgais yn ymddiddori mewn ymyriadau sy’n targedu amrywiaeth o ddeilliannau cysylltiedig â lleihau tebygolrwydd ymddygiad troseddol. Felly, bydd y rhaglen yn cefnogi ymyriadau sy’n gweithredu mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys ysgolion, cymunedau, teuluoedd lleoliadau ffydd, a chyrff iechyd a gofal cymdeithasol.
7. A yw rhaglen Gwireddu Uchelgais yn darparu cyllid ar gyfer oedrannau eraill y tu allan i’r ystod oed 8 -14?
Na, mae rhaglen Gwireddu Uchelgais ar gyfer ymyriadau sydd yn bennaf yn cefnogi plant a phobl ifanc 8-14 oed. Fodd bynnag, yr ydym yn cydnabod y gall ymyriadau ymdrin ag ystod oedran fymryn yn wahanol ac y bydd ganddynt dystiolaeth deilliannau cysylltiedig â hynny. Rhaid i ymyriadau cymwys fod â thystiolaeth o ddeilliannau cadarnhaol mewn gwaith gyda phobl ifanc 8-14 oed.
8. Alla’i wneud cais am gyllid i addasu ymyriad presennol sy’n gweithio gyda phobl ifanc 14+ i grŵp targed oedran 8-14 Gwireddu Uchelgais?
Na, nod rhaglen Gwireddu Uchelgais yw cefnogi prosiectau, rhaglenni neu ymyriadau sydd wedi eu profi i wyro’r ystod oedran targed o 8-14draw oddi wrth droseddu. Ni fydd ymyriadau nad oes ganddynt sylfaen tystiolaeth ynghylch yr ystod oedran targed (hynny yw, wedi eu cynllunio ar gyfer/cyflwyno i grwpiau oedran eraill) yn gymwys am gyllid.
9. Dros ba ardaloedd daearyddol mae’r rhaglen Gwireddu Uchelgais yn lledu?
Mae rhaglen Gwireddu Uchelgais yn ymdrin â’r DU gyfan. Gall mudiadau wneud cais am arian ar gyfer cymuned leol benodol, ardal awdurdod lleol, neu ranbarth yn un o wledydd y DU. Gall mudiadau hefyd wneud cais i ddyblygu ymyriadau ar draws gwlad neu wledydd cyfan yn y DU.
10. Faint o fudiadau y byddwch chi’n eu cyllido ym mhob un o bedair gwlad y DU?
Bydd Catch22 a’r partneriaid yn gweithio’n agos gyda’r Gronfa Loteri Fawr i wneud yn siŵr fod cydbwysedd da o fudiadau ar draws y DU wedi ei gynnwys yn y portffolio a gyflwynir i’w ystyried yn derfynol gan bwyllgor y Gronfa Loteri Fawr.
11. Mae pencadlys fy mudiad i yn Lloegr ac fe hoffem ddyblygu ymyriad yng Ngogledd Iwerddon. Fyddai hyn yn cael ei gefnogi gan raglen Gwireddu Uchelgais?
Byddwn yn ystyried pob cais sydd am ddyblygu ymyriadau profedig ar draws pedair gwlad y DU ac ynddynt.
12. All mudiadau statudol wneud cais i raglen Gwireddu Uchelgais?
Y disgwyl yw y bydd cynigion yn cael eu harwain gan fudiad o’r sector gwirfoddol a chymunedol, er y gallant weithio mewn partneriaeth â mudiadau o’r sectorau preifat a statudol i ddyblygu ymyriadau. Fodd bynnag, os yw ymyriad campus yn cael ei arwain gan awdurdod lleol a’i fod yn ffitio i nod y portffolio, gall Catch22 a’r partneriaid ystyried ei gynnwys yn dilyn ymgynghoriad â’r Gronfa Loteri Fawr.
13. Allwn ni wneud cais i raglen Gwireddu Uchelgais fel partneriaeth?
Gallwch, os yw’r ymyriad ynn ateb meini prawf Gwireddu Uchelgais, ac y gallwch ddangos sut y bydd y bartneriaeth yn cyfrannu at lwyddiant yn y broses ddyblygu.
14. Os bydd fy mudiad yn gwneud cais am gyllid tair blynedd yn awr, gawn ni ei ymestyn i bum mlynedd yn nes ymlaen?
Bydd gofyn i fudiadau sy’n gwneud cais i raglen Gwireddu Uchelgais ddangos a ydynt am wneud cais am grant tair, pedair neu bum mlynedd yn y cyfnod datgan diddordeb. Caiff mudiadau a wahoddir i fwrw ymlaen i gais llawn gyfle i edrych eto ar hyn a thrafod gyda Catch22 a phartneriaid er mwyn sicrhau mai dyma’r dewis gorau iddynt hwy. Fodd bynnag, ni fydd gan fudiadau sy’n llwyddiannus yn gwneud cais am grant tair neu bedair blynedd yn cael ymestyn hwn unwaith i’r cyfnod cyllido gychwyn.
15. Fydd rhaglen Gwireddu Uchelgais yn ystyried ymyriadau sy’n cefnogi pobl ifanc sydd eisoes yn y system cyfiawnder troseddol?
Na, mae rhaglen Gwireddu Uchelgais wedi ei hanelu’n benodol at wyro plant a phobl ifanc i lwybrau draw oddi wrth droseddu. Ni fydd mudiadau sydd eisiau dyblygu ymyriadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd eisoes yn ymwneud â’r system cyfiawnder troseddol yn gymwys i wneud cais.
16. Fe gollais y webinar wybodaeth a gyflwynwyd yn gynnar ym mis Medi; all fy mudiad ddal i wneud cais?
Gall, ewch at y wefan i sicrhau bod gennych yr holl wybodaeth berthnasol am raglen Gwireddu Uchelgais.
17. Wnaeth fy mudiad ddim pasio’r cwestiynau sgrinio cychwynnol. Allwn ni ddal i wneud cais?
Na, cynlluniwyd y cwestiynau sgrinio cychwynnol i helpu mudiadau i ddarganfod yn sydyn a ydynt hwy, a’r ymyriad y maent am ei ddyblygu, yn gymwys i wneud cais i raglen Gwireddu Uchelgais. Ni ddylai mudiadau nad ydynt yn pasio’r holl gwestiynau sgrinio fwrw ymlaen â chais rhag gwastraffu amser ac adnoddau gwerthfawr.
18. Mae gan ein mudiad drosiant bychan iawn o lai na £100k. Allwn ni ddal i wneud cais?
Mae ‘iechyd’ sefydliadol yn faen prawf allweddol i asesu cynigion, felly bydd angen i fudiadau gyda throsiant bychan iawn, sy’n gwneud cais i raglen Gwireddu Uchelgais, ddangos fod ganddynt y sgil/ewyllys i reoli maint y grant yn effeithiol, i ddyblygu ymyriad profedig, a bod y mudiad yn gynaliadwy am o leiaf gyfnod y grant.
19. Mae gan ein mudiad drosiant mawr iawn o dros £5miliwn. Allwn ni ddal i wneud cais?
Gallwch, gall mudiadau gyda throsiant mawr wneud cais am raglen Gwireddu Uchelgais. Waeth beth fo’u maint, ‘iechyd’ sefydliadol yw’r maen prawf allweddol ar gyfer asesu cynigion, felly bydd angen i fudiadau sy’n gwneud cais i raglen Gwireddu Uchelgais ddangos fod ganddynt y sgil/ewyllys i ddyblygu ymyriad profedig, a bod y mudiad yn gynaliadwy am o leiaf gyfnod y grant.
20. Mae’r ymyriad y carem ni ei ddyblygu wedi bod yn rhedeg am 18 mis yn unig. Allwn ni ddal i wneud cais i raglen Gwireddu Uchelgais?
Na, dim ond ymyriadau gafodd eu cyflwyno am o leiaf ddwy flynedd all wneud cais am y gronfa hon.
21. Rydw i yn cynrychioli mudiad newydd sydd wedi bod yn gweithredu am lai na blwyddyn. Ydym ni’n gymwys i wneud cais?
Ydych, a rhagdybio eich bod yn ateb y meini prawf eraill am y rhaglen, gan gynnwys bod yr ymyriad y bwriedir ei ddyblygu wedi cael ei gyflwyno am o leiaf ddwy flynedd, ac y gall y mudiad ddangos iechyd sefydliadol a gallu i fod yn gynnaliadwy.
22. Fe hoffai fy mudiad wneud cais i raglen Gwireddu Uchelgais i ddatblygu syniad sydd gennym am brosiect atal troseddau newydd sy’n gweithio gyda rhai 8-14 oed. Fuasen ni yn gymwys?
Na, bwriadwyd rhaglen Gwireddu Uchelgais yn benodol i ddyblygu ymyriadau seiliedig ar dystiolaeth fu’n rhedeg am o leiaf ddwy flynedd.
23. Rydym newydd golli’r cyllid a ddefnyddiwyd gennym i gyflwyno elfennau o’n gwasanaeth; mae’r bobl ifanc yr ydym yn gweithio gyda nhw wir angen y gefnogaeth rydym yn ei roi. Fedrwn ni wneud cais i raglen Gwireddu Uchelgais i gyflwyno ein gwasanaeth?
Na, mae rhaglen Gwireddu Uchelgais yn benodol ar gyfer dyblygu ymyriadau profedig mewn ardaloedd newydd neu gyda grwpiau newydd o bobl ifanc. Nid yw’r rhaglen wedi ei hanelu at gyllido mudiadau/gwasanaethau sy’n bodoli eisoes ac sydd wedi colli neu mewn perygl o goll eu cyllid.
24. Mae Gwireddu Uchelgais am gefnogi ymyriadau sydd wedi eu gwerthuso’n llym, neu sy’n paratoi i gael eu gwerthuso’n llym. Beth yw ystyr ‘gwerthuso llym’, a sut y pennir cryfder y gwerthuso?
Trwy ‘werthuso llym’, yr ydym yn golygu gwerthuso arbrofol cadarn. Gwerthusiad arbrofol yw un sy’n cymharu deilliannau plant a phobl ifanc sy’n derbyn ymyriad â rhai grŵp rheolydd o blant a phobl ifanc tebyg nad ydynt. Gellir cael grŵp rheolydd trwy ddyrannu ar hap blant a phobl ifanc sy’n ateb meini prawf y grŵp targed ‘ar’ yr ymyriad ac ‘oddi arno’ (prawf rheoledig ar hap), neu trwy gael grŵp cymharol o blant a phobl ifanc sy’n derbyn gwasanaeth tebyg (cynllun lled-arbrofol). Mae gwerthusiadau heb fod yn arbrofol nad ydynt ond yn mesur deilliannau plant a phobl ifanc cyn ac ar ôl yr ymyriad, heb grŵp cymharu, yn brin o’n diffiniad ni o werthuso llym. Yr ydym yn rhagweld mai ychydig o raglenni fydd yn ateb y safonau gwerthuso llym hyn, felly yr ydym yn rhagweld y byddwn yn cefnogi rhai ymyriadau addawol i gryfhau eu tystiolaeth o effaith. Mae hyn yn golygu y bydd angen i fudiadau fod yn barod i’w hymyriad fod yn destun gwerthuso arbrofol llym er mwyn pennu yn wrthrychol a yw yn gwella deilliannau plant a phobl ifanc ai peidio.
Bydd cadernid gwerthusiadau fydd yn sail i ymyriadau yn cael ei asesu yn wrthrychol gan ddefnyddio cyfres wrthrychol o ‘safonau tystiolaeth’, a ddatblygwyd gan un o bartneriaid Catch22, yr Uned Ymchwil Cymdeithasol. Mae’r rhain yn asesu yn wrthrychol (a) y graddau y mae’r ymyriadau yn canolbwyntio, yn ymarferol ac yn rhesymegol; (b) ansawdd unrhyw werthusiad effaith; a (c) y newid mewn deilliannau y gellir ei briodoli i’r ymyriad. Hefyd, mae’r safonau yn asesu (d) i ba raddau y mae’r ymyriad yn barod i gael ei weithredu, ei ddyblygu neu ei ehangu. Mae mwy o wybodaeth am y Safonau Tystiolaeth yma: [dolen i ddogfen fer am safonau]
25. Rydym wedi bod yn cyflwyno’r ymyriad yr hoffem ei ddyblygu ers dwy flynedd a gallwn arddangos llwyddiant, ond nid yw wedi ei werthuso’n llym gan ddefnyddio dulliau arbrofol. Allwn ni ddal i wneud cais?
Bwriad rhaglen Gwireddu Uchelgais yw cefnogi dyblygu ymyriadau gyda sylfaen gadarn o dystiolaeth sydd yn dangos llwyddiant o ran gwyro plant a phobl ifanc oddi wrth lwybr troseddu. Yr ydym yn cydnabod, fodd bynnag, mai nifer fechan o ymyriadau sy’n debyg o gwrdd â’r safonau tystiolaeth uchel. Yr ydym yn rhagweld felly y byddwn yn cefnogi rhai ymyriadau addawol i gryfhau eu tystiolaeth o effaith. Mae hyn yn golygu y bydd angen i fudiadau fod yn barod i’w hymyriad fod yn destun gwerthuso arbrofol llym er mwyn pennu yn wrthrychol a yw yn gwella deilliannau plant a phobl ifanc ai peidio.
26. Mae gan fy mudiad beth tystiolaeth gwerthuso am yr ymyriad y dymunwn ei ddyblygu, ond nid wyf yn siŵr a yw’n ddigon cadarn. Allwn ni ddefnyddio cyllid grant i gryfhau ein tystiolaeth werthuso?
Gallwch, o bosib. Bwriad rhaglen Gwireddu Uchelgais yw cefnogi dyblygu ymyriadau gyda sylfaen gadarn o dystiolaeth sydd yn dangos llwyddiant o ran gwyro plant a phobl ifanc oddi wrth lwybr troseddu. Yr ydym yn cydnabod, fodd bynnag, mai nifer fechan o ymyriadau sy’n debyg o gwrdd â’r safonau tystiolaeth uchel. Yr ydym yn rhagweld felly y byddwn yn cefnogi rhai ymyriadau addawol i gryfhau eu tystiolaeth o effaith.
27. All fy mudiad wneud cais am gyllid i gryfhau ein sylfaen tystiolaeth, ac yna cyllid pellach i ddyblygu’r ymyriad yn nes ymlaen?
Na, gall mudiadau wneud cais i raglen Gwireddu Uchelgais unwaith. Bydd Catch 22 a’r partneriaid, trwy ymgynghori â’r Gronfa Loteri Fawr, yn asesu lle gallai ymyriadau addawol elwa o gefnogaeth i gryfhau eu sylfaen tystiolaeth fel rhan o’r broses ddyblygu.
28. Nid oes gan yr ymyriad yr hoffem ei ddyblygu nod penodol i atal troseddu, ond y mae tystiolaeth werthuso yn awgrymu bod hyn yn ddeilliant. A ydym ni’n gymwys i wneud cais?
Os gall mudiadau ddarparu tystiolaeth am effaith cadarnhaol yr ymyriad yn gwyro’r rhai 8-14 oed ymaith oddi ar lwybr troseddu, a sut y buasent yn dyblygu’r ymyriad i ofalu ei fod yn cael yr un canlyniadau ac yn cyrraedd y grŵp targed, yna byddai mudiadau o’r fath yn gymwys i wneud cais.
29. Ga’i wneud cais am gyllid i ehangu, a chynyddu nifer y bobl ifanc yr ydym yn gweithio gyda hwy yn lleol?
Na, bwriedir rhaglen Gwireddu Uchelgais gefnogi dyblygu ymyriadau. Trwy ddyblygu, yr ydym yn golygu lledu’r ymyriad i gynulleidfaoedd a/neu ardaloedd daearyddol newydd. Nid yw’n ddigon cynyddu nifer y bobl ifanc yr ydych yn gweithio â hwy eisoes yn eich lleoliad presennol.
30. Os bydd ein cais yn llwyddiannus, carem wneud rhai newidiadau i wella ein hymyriad cyn i ni ei ddyblygu. Allwn ni wneud hyn?
Na, bwriedir rhaglen Gwireddu Uchelgais i gefnogi dyblygu ymyriadau profedig. Er mwyn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd ymyriadau yn cael yr un effaith cadarnhaol ar ddeilliannau i blant a phobl ifanc, rhaid eu dyblygu yn ffyddlon - mae hyn yn golygu dilyn cynllun gwreiddiol a methodoleg cyflwyno’r ymyriad mor agos ag sydd modd.
31. Fe hoffem wneud cais am gyllid i ddyblygu ymyriad fu’n rhedeg yn llwyddiannus dramor. Allwn ni wneud hyn?
Gallwch, mae gennym ddiddordeb mewn derbyn cynigion gan fudiadau sydd am fewnforio ymyriadau seiliedig ar dystiolaeth o dramor. Rhaid i’r ymyriadau hyn fod â thystiolaeth gadarn o effaith ar ddeilliannau perthnasol i blant a phobl ifanc ac wedi bod yn rhedeg am o leiaf ddwy flynedd, a rhaid i’r mudiad sydd am gyflwyno’r ymyriad yn y DU ddangos y gallu sefydliadol i ddyblygu’r ymyriad gan gadw’n ffyddlon at y cynllun gwreiddiol.
32. Os ydym yn bwriadu dyblygu ymyriad y profwyd sydd wedi gweithio dramor i’r DU, a fydd angen ei werthuso yn llym yn y DU?
O bosib. Bydd yn dibynnu a yw’r cyd-destun diwylliannol neu amgylcheddol, neu’r boblogaeth darged yn y DU, yn wahanol mewn rhyw ffordd allweddol i gyd-destun ei werthuso gwreiddiol a allai ddylanwadu ar effeithiolrwydd yr ymyriad. Os yw’r cyd-destun/poblogaeth darged yn ddigon gwahanol, yna efallai y bydd angen gwerthuso’r dyblygu. Pennir hyn gan gonsortiwm Catch22 trwy ymgynghori â’r ymgeisydd a’r Gronfa Loteri Fawr.
33. Fe hoffem wneud cais am gyllid i ddyblygu ymyriad a gynlluniwyd gan rywun arall. Allwn ni wneud hyn?
Gallwch, mae gennym ddiddordeb mewn derbyn cynigion gan fudiadau sydd am ddyblygu ymyriadau profedig, os mai hwy ddatblygodd yr ymyriad gwreiddiol neu beidio. Lle mae mudiadau yn gwneud cais i ddyblygu ymyriad a gynlluniwyd/ddatblygwyd yn rhywle arall, buasem yn disgwyl gweld tystiolaeth o ymwneud â’r mudiad a’i datblygodd, a gallu i ddyblygu’r ymyriad gan gadw’n ffyddlon at y cynllun gwreiddiol.
34. A oes cyllid ar gael i’n cefnogi i baratoi ein cais?
Yn anffodus nid oes arian ar gael i gefnogi paratoi ceisiadau.
35. Pa fath o gefnogaeth fydd mudiadau yn dderbyn os yw eu cais yn llwyddiannus?
Ochr yn ochr â chyllid grant i gefnogi dyblygu, bydd mudiadau llwyddiannus yn cael amrywiaeth o gefnogaeth i helpu gyda’r broses o ddyblygu’r ymyriad a datblygu’r sail tystiolaeth. Bydd hyn yn cynnwys cyngor a chanllawiau arbenigol wedi ei deilwrio i anghenion penodol mudiadau mewn meysydd megis rhwydweithiau, seilwaith, cynllun busnes a chymunedau sy’n elwa.
36. Nid oes ar ein mudiad angen unrhyw gefnogaeth i ddyblygu ein hymyriad; dim ond angen cyllid sydd arnom. Gawn ni wneud cais am gyllid heb gefnogaeth?
Na, bydd rhaglen Gwireddu Uchelgais yn darparu cyllid grant ynghyd â chefnogaeth arbenigol wedi ei deilwrio i’r mudiadau llwyddiannus. Felly, mae rhaglen Gwireddu Uchelgais am fwy na chyllid grant, a bydd angen i fudiadau sy’n gwneud cais fod yn barod ac yn awyddus i weithio’n ddwys gyda Catch22 a’u partneriaid fel rhan o nod y rhaglen.
37. Pa systemau monitro y bydd disgwyl i fudiadau/ymyriadau ddefnyddio use?
Bydd disgwyl i’r holl fudiadau llwyddiannus ddefnyddio system Views i gasglu tystiolaeth sy’n dogfennu cyflwyno ac effaith yr ymyriad ar ddeilliannau i blant a phobl ifanc. Darperir cefnogaeth i ddefnyddio Views fel rhan o raglen Gwireddu Uchelgais.
38. Mae gan y mudiad eisoes system fonitro a chofnodi sy’n cael ei defnyddio ar draws ein holl wasanaethau. Fydd hyn yn ddigon?
Bydd disgwyl i’r holl fudiadau sy’n llwyddo yn eu ceisiadau i raglen Gwireddu Uchelgais ddefnyddio Views, a rhoddir cefnogaeth i wneud hyn. Dangoswyd bod system Views yn cryfhau proses asesu effaith a thystiolaeth mudiadau, a bydd yn caniatáu cymharu a rhannu dysgu mwy effeithiol rhwng mudiadau sy’n derbyn cyllid
39. Pryd mae’n rhaid i ni ddarparu cyllideb fanwl ar gyfer ein cynnig?
I ddechrau, gofynnir i fudiadau sy’n gwneud cais i raglen Gwireddu Uchelgais ddarparu cyllideb ddangosol yn unig (cyfanswm cost a bras ddyraniadau). Os bydd mudiadau yn llwyddo yn y cyfnod datgan diddordeb, bydd gofyn iddynt gyflwyno cynnig llawnach gan gynnwys cyllideb fwy manwl.
40. A fydd disgwyl i ni ymgynghori â phobl ifanc am yr ymyriad yr ydym yn bwriadu ddyblygu?
Bydd angen i fudiadau sy’n gwneud cais i’r rhaglen Gwireddu Uchelgais ddangos bod yr ymyriad y bwriadant ddyblygu yn ateb gwir anghenion plant a phobl ifanc 8-14 oed a’i fod yn cael effaith gadarnhaol ar eu deilliannau. Bydd angen i’r mudiadau eu hunain ddangos eu bod yn ymwneud yn effeithiol â phobl ifanc, a theilwrio eu darpariaeth yn briodol.
41. Sut bydd Gwireddu Uchelgais yn cefnogi’r ymyriadau a ddewiswyd i’w dyblygu?
Bydd Catch 22 a’r partneriaid yn cefnogi mudiadau llwyddiannus fel a ganlyn:
- Nodi’r ymyriadau mwyaf effeithiol a gweld a oes gan y mudiadau sy’n gwneud cais i raglen Gwireddu Uchelgais y gallu a’r parodrwydd i’w dyblygu yn ehangach;
- Eu helpu i sefydlu’r rhwydweithiau, y partneriaethau, y wybodaeth leol a (lle bo hynny’n briodol) masnachfreintiau i ddyblygu ymyriadau effeithiol;
- Darparu cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth rhwydweithio
- Eu cefnogi i oresgyn rhwystrau i ddyblygu llwyddiannus
- Gwerthuso effaith ymyriadau unigol sy’n cael eu dyblygu, gan gynnwys deilliannau anfwriadol.
42. Faint o gyllid fydd ar gael i bob mudiad a gefnogir trwy raglen Gwireddu Uchelgais?
Byddwn yn ystyried amrywiaeth eang o faint grantiau hyd at uchafswm o £3 miliwn. Nid oes isafswm maint grant ond bydd angen i grantiau llai fod yn ddigon mawr i gael effaith dros dair blynedd drwy’r rhaglen. Bydd grantiau prosiect mwy fel arfer yn ymdrin ag un wlad neu ddau neu fwy o ranbarthau Lloegr, neu byddant i brosiectau i’r DU gyfan. Rydym yn disgwyl cyllido hyd at 20 o brosiectau unigol i ddyblygu dros dair i bum mlynedd.
43. Ar beth y cawn ni wario’r cyllid a neilltuwyd i fudiadau?
Gall mudiadau wario’r cyllid ar eitemau megis staffio, gwirfoddolwyr, treuliau rheoli, cyfarpar, adnoddau, cludiant, teithio a threuliau eraill sydd eu hagen i ddyblygu ymyriad a dysgu o’r broses. Bydd angen i fudiadau sy’n wneud cais gynnwys costau mynychu digwyddiadau cefnogi, rhannu dysgu a chymryd rhan mewn gweithgareddau fydd yn bwydo i mewn i’r gwerthuso effaith cyffredinol y tu mewn i gyllid eu grant.
44. Fyddwn ni’n medru gosod gorbenion yn erbyn y rhaglen hon?
Bydd mudiadau yn medru gosod costau llawn prosiect, gan gynnwys yr holl gostau sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r prosiect, ynghyd â rhan o orbenion y prosiect, yn unol ag ymrwymiad BIG i adennill costau llawn.
45. Allwn ni gyllido gwaith cyfalaf trwy’r rhaglen hon?
Rhaglen refeniw yw hon yn bennaf, felly byddwn yn cyllido cyfarpar, gwaith adeiladu neu adnewyddu cyfalaf i fyny at £50,000 y prosiect yn unig.
46. A all mudiad ddefnyddio cyllid trwy raglen Gwireddu Uchelgais i gyllido meysydd sydd ar hyn o bryd yn cael eu cyllido trwy’r llywodraeth?
Rhaid i’n cyllid fod ar wahân ac yn ychwanegol i unrhyw gyllid gan lywodraeth leol neu ganolog.
47. Dwyf i ddim wir yn siŵr beth fydd dyblygu ymyriad yn olygu. A fyddwch yn cefnogi mudiadau i gynllunio’r hyn y byddant yn wneud gyda’r arian?
Caiff mudiadau sy’n gwneud cais llwyddiannus i raglen Gwireddu Uchelgais yn cael cefnogaeth a chanllawiau arbenigol i ddyblygu ymyriadau profedig. Fodd bynnag, buasem yn disgwyl i fudiadau sy’n gwneud cais allu dangos, fel rhan o broses y cais, tystiolaeth glir o effaith yr ymyriad, eu gallu a’u cynlluniau i ddyblygu, cynaladwyedd y mudiad a sut i oresgyn unrhyw rwystrau posibl i ddyblygu.
48. All rhaglen Gwireddu Uchelgais ystyried cynnwys mudiadau yn y portffolio na chawsant erioed eu cyllido gan BIG neu a wrthodwyd am gyllid gan BIG yn y gorffennol?
Bydd rhaglen Gwireddu Uchelgais yn ystyried cefnogi mudiadau os ydynt wedi derbyn neu wneud cais am gyllid gan BIG yn y gorffennol neu beidio. Os gwrthodwyd prosiect o’r blaen am gyllid gan BIG, bydd ei gynnwys yn y portffolio yn dibynnu ar y rhesymau am wrthod y prosiect.
49. Lle mae dod o hyd i eirfa termau?
Geirfa Termau Gwireddu Uchelgais
Beth os nad wyf wedi cael ateb i ‘nghwestiwn yma?
Sut mae modd cael mwy o wybodaeth am y rhaglen Gwireddu Uchelgais?
Cysylltwch â ni trwy e-bost: gwiredduuchelgais@catch-22.org.uk


