Quick links
- Cyllid a chefnogaeth
- Sut y caiff ceisiadau eu hasesu?
- Safonau Tystiolaeth
- Esiamplau o ddyblygu
- CC Gwireddu Uchelgais
- Geirfa termau
- Cyswllt
Catch22 events
22 June 2012
Cycle London to Paris Challenge
This long-weekend challenge links two great European cities, London and Paris, covering around 300km in just three days. More...
08 July 2012
British 10K London Run
Run this iconic 10km race and take in the buzz of London as the city prepares for the Olympic Games. More...
Cyllid a chefnogaeth
Pa gefnogaeth gaiff mudiadau trwy’r rhaglen Gwireddu Uchelgais?
Mae’r broses ymgeisio yn awr ar gau a bydd penderfyniadau ynglŷn â pha ymyrraethau a fydd yn cael eu hariannu yn cael eu gwneud yn ystod mis Mawrth.
Bwriada rhaglen Gwireddu Uchelgais gefnogi oddeutu 20 o geisiadau o bob cwr o Loegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Caiff ymgeiswyr llwyddiannus eu cefnogi i ddyblygu ymyriad seiliedig ar dystiolaeth trwy gyfuniad o gefnogaeth ariannol ac arbenigol. Mae cyllid ar gael am rhwng tair a phum mlynedd, i gyd-fynd â phecyn o gefnogaeth arbenigol a chymorth technegol wedi ei deilwrio. Bydd angen i’ch mudiad fod wedi ymrwymo i weithio yn ddwys gyda’r consortiwm a benodwyd i reoli rhaglen Gwireddu Uchelgais, trwy gydol cyfnod y grant i ddyblygu a gwerthuso’r ymyriad.
Faint o arian sydd ar gael trwy’r rhaglen Gwireddu Uchelgais ?
Gall mudiadau neu gonsortia wneud cais am hyd at £3 miliwn o gyllid grant. Nid oes isafswm ar faint grant, ond bydd angen i grantiau llai fod o ddigon o faint i gael effaith amlwg dros y cyfnod cyllido o dair blynedd. Bydd grantiau prosiect mwy fel arfer yn cynnwys un wlad neu ddau neu fwy o ranbarthau yn Lloegr, neu ar gyfer prosiectau i’r DU gyfan. Rhaid defnyddio’r arian yn bennaf i ddyblygu’r ymyriad. Nid oes modd defnyddio’r arian i gynnal yr hyn sy’n cael ei gyflwyno eisoes, nac i ail-sefydlu cyflwyno heb ymledu i ardaloedd a/neu gynulleidfaoedd newydd.
Mae modd gwario’r arian ar eitemau megis staffio, gwirfoddolwyr, treuliau rheoli, cyfarpar, adnoddau, cludiant, treuliau teithio ac eraill sydd eu hangen i ddyblygu ymyriad ac i ddysgu o’r broses. Rhaglen refeniw yn bennaf yw Gwireddu Uchelgais, felly telir am gyfarpar cyfalaf, gwaith adeiladu a/neu adnewyddu hyd at uchafswm o £50,000 yn unig. Rhaid i’r cyllid y gwneir cais amdano trwy’r rhaglen Gwireddu Uchelgais fod ar wahân i unrhyw gyllid gan lywodraeth ganol a/neu leol.
Mae'r cyfnod datgan diddordeb yn rhaglen Gwireddu Uchelgais bellach wedi cau.


