Quick links


Catch22 events


22 June 2012
Cycle London to Paris Challenge
This long-weekend challenge links two great European cities, London and Paris, covering around 300km in just three days. More...

08 July 2012
British 10K London Run
Run this iconic 10km race and take in the buzz of London as the city prepares for the Olympic Games. More...

Geirfa Termau Gwireddu Uchelgais

Mae’r broses ymgeisio yn awr ar gau a bydd penderfyniadau ynglŷn â pha ymyrraethau a fydd yn cael eu hariannu yn cael eu gwneud yn ystod mis Mawrth.

Ansawdd gwerthuso A yw’r dystiolaeth am effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yr ymyriad yn ddibynadwy ai peidio (un o’r pedwar safon tystiolaeth).
Atal Ymyriad sydd yn ceisio atal deilliannau gwael rhag digwydd i ddechrau. Yng nghyd-destun Gwireddu Uchelgais, mae a wnelo atal ag osgoi cael plant a phobl ifanc yn mynd i’r system cyfiawnder troseddol. Gellir gwneud hyn trwy atal amrywiaeth o ymddygiad negyddol sy’n gysylltiedig â hyn, er enghraifft, camddefnyddio sylweddau neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Deilliant Yng nghyd-destun gwasanaethau i blant a phobl ifanc, deilliannau yw effaith ymyriad ar blant a phobl ifanc. Mae rhaglen Gwireddu Uchelgais yn ceisio cefnogi ymyriadau sydd yn y pen draw yn atal plant a phobl ifanc rhag mynd i’r system cyfiawnder troseddol. Gellir gwneud hyn trwy wella amrywiaeth o ddeilliannau iechyd a datblygiadol sy’n gysylltiedig â llai o risg o fynd i’r system cyfiawnder troseddol, er enghraifft, ymddygiad plant, iechyd meddwl neu ymwneud â’r ysgol. Mae deilliannau yn wahanol i gynhyrchion, a all gael eu diffinio fel effaith ymyriad ar ddangosydd, er enghraifft nifer yr arestiadau/euogfarnau ac a dderbyniodd plentyn/person ifanc gefnogaeth addysgol arbennig ai peidio.

Dyblygu Lledaenu ymyriad profedig i ardaloedd daearyddol newydd neu i gynulleidfaoedd newydd/gwahanol o blant a phobl ifanc. Mae’n wahanol i uwchraddio, sef dim ond cynyddu nifer y bobl ifanc sy’n cael eu gwasanaethu.

Dylunio heb fod yn Arbrofol Gwerthusiadau sy’n mesur deilliannau plant a phobl ifanc sy’n derbyn ymyriad cyn ac ar ôl yr ymyriad, ond nad yw’n cymharu’r deilliannau hyn gyda grŵp rheolydd. Nid yw’r canlyniadau o werthusiadau sy’n defnyddio’r agwedd hon yn fawr mwy nac awgrymiadau.

Effaith yr ymyriad Faint o newid mewn deilliannau targed y gellir ei briodoli’n uniongyrchol i’r ymyriad (un o’r pedwar safon tystiolaeth).
Ffactor risg Nodwedd gynhenid, digwyddiad neu gyd-destun sydd yn ei gwneud deilliant negyddol yn fwy tebygol. Er enghraifft, dangoswyd fod hanes o droseddu neu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y teulu yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd plant a phobl ifanc yn gwneud yr un peth, ac y mae felly yn ffactor risg. Gall ymyriadau geisio lleihau ffactorau risg penodol fel ffordd tuag at wella deilliannau cysylltiedig.

Ffactor warchodol Nodwedd gynhenid, digwyddiad neu gyd-destun a all liniaru risg benodol. Er enghraifft, yng nghyd-destun hanes o droseddu neu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y teulu, gall oedolyn cyfrifol y gall plentyn neu berson ifanc ddibynnu arni/o ei gwneud yn llai tebygol y bydd y plentyn neu’r person ifanc yn ymddwyn mewn ffordd allai arwain at ymwneud â’r system cyfiawnder troseddol. Gall ymyriadau geisio hybu ffactorau gwarchodol penodol er mwyn gwella deilliannau plant.
Ffyddlondeb Ffyddlondeb i gynllun gwreiddiol rhaglen neu ymyriad. Wrth weithredu rhaglenni seiliedig ar dystiolaeth mewn safleoedd newydd neu gyda chynulleidfaoedd newydd, mae gweithwyr yn aml yn addasu ymyriadau. Dangoswyd bod hyn yn lleihau eu heffaith. Gorwedd llawer o’r sgil mewn gweithredu a dyblygu ymyriadau yn effeithiol yn y gallu i wahaniaethu rhwng gwneud addasiadau i ymateb yn synhwyrol i’r cyd-destun newydd ac addasiadau a allai danseilio effeithiolrwydd yr ymyriad.

Goddrychol Barn seiliedig ar deimladau a safbwyntiau unigolion yn hytrach na ffeithiau gwrthrychol.

Gweithgaredd ymyriad Y prosesau, arfau, digwyddiadau, technoleg a/neu gamau sy’n rhan fwriadol o’r modd y mae’r ymyriad yn gweithio. Mewn geiriau eraill, ‘cynhwysion’ yr ymyriad sydd yn arwain at well deilliannau i blant a phobl ifanc.

Gwerthuso Y dasg o weithio allan a yw dull o weithredu yn effeithiol. Yng nghyd-destun rhaglen Gwireddu Uchelgais, mae’n cyfeirio at ddefnyddio ymchwil i fesur yn systemaidd effeithiolrwydd prosiectau, rhaglenni neu ‘ymyriadau’ penodol o ran gwella deilliannau plant a phobl ifanc .

Gwerthuso arbrofol Gwerthusiad o ymyriad sydd yn cymharu deilliannau plant a phobl ifanc sy’n derbyn yr ymyriad â rhai grŵp rheolydd o blant a phobl ifanc tebyg nad ydynt wedi ei dderbyn. Gellir nodi’r grŵp rheolydd trwy neilltuo ar hap blant a phobl ifanc sy’n ateb meini prawf y grŵp targed (yn yr achos hwn, rhai 8-14 oed) - prawf rheoledig ar hap - neu trwy nodi grŵp cymharol o blant a phobl ifanc sy’n derbyn gwasanaeth tebyg - dyluniad lled-arbrofol.

Gwrthrychedd Ffeithiau nad ydynt wedi eu seilio ar deimladau, chwaeth a barn bersonol unigolion nac yn dod dan eu dylanwad, ond yn hytrach feini prawf tryloyw a diduedd.

Mudiad Y mudiad, neu fudiad arweiniol mewn partneriaeth, sy’n gyfrifol am gyflwyno a dyblygu’r ymyriad. Nid oes angen iddo fod o raid yn ddatblygwr yr ymyriad.

Mudiad Cynaliadwy Mudiad a all ddangos ei fod yn medru ateb ymrwymiadau cyflwyno yn awr ac yn y dyfodol. Yng nghyd-destun rhaglen Gwireddu Uchelgais, mae hyn yn golygu fod angen i fudiadau fod yn gynaliadwy am gyfnod y grant a thu hwnt, ac yn medru cyflawni ymrwymiadau cysylltiedig.

Natur benodol yr ymyriad A yw’r ymyriad yn canolbwyntio, yn ymarferol ac yn rhesymegol ai peidio (un o’r pedwar safon tystiolaeth).

Parodrwydd y mudiad Sgil ac ewyllys staff allweddol a rhanddeiliaid. Yn rhaglen Gwireddu Uchelgais, mae a wnelo hyn â sgil ac ewyllys staff a rhanddeiliaid mewn mudiadau arweiniol ac unrhyw bartneriaid i ddyblygu’r ymyriad, ac i weithio ochr yn ochr â Catch 22 a phartneriaid i adeiladu sylfaen o dystiolaeth ac i rannu gwersi.

Parodrwydd y system Y graddau y mae gan yr ymyriad y gefnogaeth a’r wybodaeth angenrheidiol i alluogi ei weithredu mewn cymunedau a systemau cyhoeddus (un o’r pedwar safon tystiolaeth).

Poblogaeth darged Y grŵp penodol o bobl y dangoswyd bod yr ymyriad yn neu yn ceisio gwella eu deilliannau. Bydd Gwireddu Uchelgais yn cefnogi ymyriadau sy’n ceisio atal plant a phobl ifanc 8 i 14 oed rhag mynd i’r system cyfiawnder troseddol. Y boblogaeth darged felly fydd plant a phobl ifanc 8 i 14 oed.

Safonau Tystiolaeth Cyfres o feini prawf gwrthrychol a diduedd a ddatblygwyd gan yr Uned Ymchwil Cymdeithasol a phartneriaid rhyngwladol gyda’r bwriad o asesu: (a) y graddau y mae ymyriadau yn canolbwyntio, yn ymarferol a rhesymegol; (b) ansawdd unrhyw werthuso effaith; (c) y newid mewn deilliannau y gellir ei briodoli i’r ymyriad; a (d) y graddau y mae’r ymyriad yn barod i gael ei weithredu a’i ddyblygu.

Sicrhau ansawdd Monitro a gwerthuso yn systemaidd wahanol agweddau o brosiect, gwasanaeth neu gyfleuster i wneud yn siŵr yr atebir isafswm safonau ansawdd.

Ymyriad Y rhaglen, prosiect neu weithgaredd a gyflwynir gan fudiad ac a gynlluniwyd i wella deilliannau i blant a phobl ifanc. Yng nghyd-destun rhaglen Gwireddu Uchelgais, mae mudiadau yn gwneud cais i ddyblygu ymyriadau. Gall hyn fod yn ymyriad a gynlluniwyd ac a weithredwyd yn y DU, neu fe all fod yn ymyriad seiliedig ar dystiolaeth a fewnforir o dramor. Gall yr ymyriad fod ar wahân i’r mudiad sy’n ei gyflwyno (hynny yw, efallai i’r ymyriad gael ei gynllunio a’i gyflwyno gan fudiad gwahanol i’r un sy’n ceisio ei ddyblygu).

Ymyriad cynnar Ymyriad sydd yn ceisio camu i mewn yn gynnar yn natblygiad problemau. Gall ymyriadau o’r fath weithio gyda’r rhai sy’n dangos arwyddion cynnar problemau, neu rhai â’r risg uchaf o ddatblygu problemau. Nid yw ymyriad cynnar o raid yn golygu ymyrryd yn ifanc.