Quick links
- Cyllid a chefnogaeth
- Sut y caiff ceisiadau eu hasesu?
- Safonau Tystiolaeth
- Esiamplau o ddyblygu
- CC Gwireddu Uchelgais
- Geirfa termau
- Cyswllt
Catch22 events
22 June 2012
Cycle London to Paris Challenge
This long-weekend challenge links two great European cities, London and Paris, covering around 300km in just three days. More...
08 July 2012
British 10K London Run
Run this iconic 10km race and take in the buzz of London as the city prepares for the Olympic Games. More...
Sut y caiff ceisiadau eu hasesu?
Mae’r broses ymgeisio yn awr ar gau a bydd penderfyniadau ynglŷn â pha ymyrraethau a fydd yn cael eu hariannu yn cael eu gwneud yn ystod mis Mawrth.
Caiff ceisiadau i fod yn rhan o’r portffolio a gyflwynir i’r Gronfa Loteri fawr eu hasesu yn wrthrychol ar draws dau brif ddimensiwn: (i) iechyd a pharodrwydd sefydliadol; a (ii) effaith cymdeithasol a safonau tystiolaeth sy’n sail i’r ymyriad.
Caiff ceisiadau eu hasesu yn ôl pedwar o feini prawf allweddol:
Sgiliau/ewyllys sefydliadol
Byddwn yn asesu sgiliau, ewyllys a pharodrwydd y mudiad sy’n gwneud y cais, ei staff, a phrif randdeiliaid i ymwneud â holl gyfnod y grant i ddyblygu’r ymyriad
Effaith cymdeithasol
Byddwn yn asesu’r ymyriad gan ddefnyddio safonau a ddatblygwyd gan yr Uned Ymchwil Cymdeithasol yn Dartington. Mae’r safonau hyn yn ymdrin â’r canlynol
- natur benodol yr ymyriad - a yw’r ymyriad yn canolbwyntio, yn ymarferol ac yn rhesymegol
- ansawdd y gwerthuso – a yw’r dystiolaeth o effeithiolrwydd ac effeithiolrwydd yr ymyriad yn ddibynadwy ai peidio
- effaith yr ymyriad – faint o newid mewn deilliannau i’r grŵp targed y gellir ei briodoli i’r ymyriad
- parodrwydd y system – i ba raddau y mae gan yr ymyriad y gefnogaeth a’r wybodaeth angenrheidiol i alluogi iddo gael ei ddyblygu.
Gallu i ddyblygu
Byddwn yn asesu a yw cynlluniau’r mudiad i ddyblygu’r ymyriad yn realistig a chyraeddadwy ai peidio
Cynnaladwyedd
Byddwn yn asesu a oes gan y mudiad fodel busnes clir a chadarn, sy’n sicrhau cynaladwyedd tra pery’r grant, a thu hwnt.
Medrwch ddarllen mwy am y Safonau Tystiolaeth, a sut y cânt eu cymhwyso yn rhaglen Gwireddu uchelgais yma (dolen)
Bydd gofyn i fudiadau ddangos pa mor dda y maent yn cyd-fynd â’r meini prawf yn y ffurflen datgan diddordeb. Ar sail y wybodaeth a dderbynnir, rhoddir mudiadau ar restr fer i fynd i gyfres o weithdai.
Caiff mudiadau y mae eu cynlluniau yn sgorio’n dda yn erbyn y meini prawf allweddol eu gwahodd i gyflwyno cynigion llawn, a gymerir at banel.


