Quick links
- Cyllid a chefnogaeth
- Sut y caiff ceisiadau eu hasesu?
- Safonau Tystiolaeth
- Esiamplau o ddyblygu
- CC Gwireddu Uchelgais
- Geirfa termau
- Cyswllt
Catch22 events
22 June 2012
Cycle London to Paris Challenge
This long-weekend challenge links two great European cities, London and Paris, covering around 300km in just three days. More...
08 July 2012
British 10K London Run
Run this iconic 10km race and take in the buzz of London as the city prepares for the Olympic Games. More...
Safonau Tystiolaeth
Mae’r broses ymgeisio yn awr ar gau a bydd penderfyniadau ynglŷn â pha ymyrraethau a fydd yn cael eu hariannu yn cael eu gwneud yn ystod mis Mawrth.
Bydd penderfyniadau ynghylch pa ymyriadau a gefnogir gan Gwireddu Uchelgais yn cael eu llywio i raddau gan gyfres o Safonau Tystiolaeth a ddatblygwyd gan yr Uned Ymchwil Cymdeithasol yn Dartington, ac a gefnogwyd gan grŵp o arbenigwyr rhyngwladol. Mabwysiadwyd y safonau hyn gan Awdurdod Llundain Fwyaf fel rhan o’u ‘Project Oracle’ ac fe’u defnyddiwyd fel canllawiau gan Adolygiad Allen ar Ymyriad Cynnar. Maent yn cael eu defnyddio fel sylfaen i ffynhonnell ddibynadwy gyntaf y DU o wybodaeth am raglenni seiliedig ar dystiolaeth, dan yr enw ‘Evidence2Success’, y bydd Dartington yn eu rhoi ar gael i’r cyhoedd yn gynnar yn 2012.
Gall unrhyw bolisi, rhaglen, proses neu arfer sydd â’r bwriad o wella iechyd a datblygiad plant gael ei asesu yn erbyn y Safonau. Mae pedwar dimensiwn i’r Safonau:
1. Natur Benodol yr Ymyriad
Amcan yw hyn o sut y gellid yn rhesymegol ddisgwyl i’r ymyriad gael effaith ar iechyd a datblygiad plant. Mae rhaglenni ac arferion sy’n cwrdd â’r prawf hwn yn nodweddiadol yn glir ynghylch y canlynol:
- Pwy sy’n cael y gwasanaeth
- Pa effaith ar ba agweddau o iechyd a datblygiad plant a geir
- Y rheswm neu’r rhesymeg y tu ôl i pam y bydd yr ymyriad yn cael y deilliant.
Mae rhaglenni a pholisïau sy’n gwneud yn dda yn erbyn maen prawf Natur Benodol yr Ymyriad fel rheol wedi eu cefnogi â dogfennaeth a hyfforddiant da.
2. Ansawdd yr Ymyriad
Mae llawer ymyriad wedi ei werthuso, ond mae ansawdd y gwerthuso yn amrywio’n fawr. Mae’r Safonau yn rhoi gwerth ar werthusiadau sy’n rhoi syniad dibynadwy o’r effaith ar ddeilliannau plant. (Y mae gwerth i fathau eraill o werthuso, megis boddhad cwsmeriaid ac ansawdd y gweithredu, ond y maent yn cwympo y tu allan i ffocws y Safonau). Mae rhaglenni ac arferion sy’n ateb y prawf hwn fel rheol yn gwneud y canlynol:
- Cael eu cefnogi gan bobl sydd â gwir ddiddordeb mewn darganfod a yw’r ymyriad yn effeithiol ai peidio
- Wedi bod yn destun gwerthuso sy’n cymharu deilliannau i blant sy’n derbyn yr ymyriad gyda rhai eraill â’r un anghenion nad ydynt yn derbyn yr ymyriad
- Yn ddelfrydol, wedi eu gwerthuso yn annibynnol gan ddefnyddio prawf rheolydd ar hap wedi ei wneud yn dda.
3. Effaith yr Ymyriad
Mae’r Safonau yn rhoi gwerth ar raglenni a pholisïau all fod yn glir am faint o effaith y bydd modd ei gael yn nodweddiadol ar ddimensiynau penodol iechyd a datblygiad plant. Mae’r Safonau yn rhoi blaenoriaeth i ddau fesur effaith:
- Maint yr effaith, mesur safonol o effaith sy’n rhoi data cymharol waeth pa ddeilliannau sy’n cael eu hasesu
- Cymarebau cost-budd sy’n trosi data ar gostau uned a meintiau effaith i ragfynegiad am yr elw economaidd tebygol am fuddsoddi yn y rhaglen.
4. Parodrwydd y System
Mae llawer o’r rhaglenni a’r polisïau mwyaf effeithiol heb fod yn barod am y byd go-iawn. Mae diddordeb Gwireddu Uchelgais mewn datblygu ymyriad effeithiol, sy’n golygu bod yn rhaid iddynt fod yn barod ar gyfer y systemau cyhoeddus prif-ffrwd sy’n gyfrifol am y £55 biliwn o wariant blynyddol ar blant, neu ar wneud gweithredu y tu allan i’r systemau cyhoeddus hyn yn gynaliadwy. Mae cwrdd â’r prawf hwn fel arfer yn golygu:
- Bod â syniad clir o’r gost uned a gofynion staffio
- Prosesau clir a phendant i fesur ffyddlondeb y gweithredu ac ymdrin â phroblemau gweithredu cyffredin
Cymhwyso’r Safonau i Fuddsoddi mewn Llwyddiant
Ychydig iawn o bolisïau a rhaglenni ledled y byd sy’n ateb Safonau’r Uned Ymchwil Cymdeithasol yn llawn. Efallai y bydd rhai o gynigion Gwireddu Uchelgais am ddyblygu ymyriadau a gyrhaeddodd y safonau. Mae’r wybodaeth hon ar gael gan yr Uned Ymchwil Cymdeithasol.
Bydd y rhan fwyaf o’r rhaglenni ym mhortffolio Gwireddu Uchelgais yn sgorio’n dda yn erbyn o leiaf un dimensiwn o’r safonau, a bydd ganddynt gynllun clir i wella yn erbyn rhai o’r dimensiynau eraill. Mae llawer o’r ymyriadau, er enghraifft, yn barod o ran systemau ond heb eto gael eu gwerthuso am y safonau ansawdd uchaf. Cafodd eraill eu gwerthuso’n dda ond mae angen datblygu arnynt i’w gwneud yn bosibl eu dyblygu.
Dylai ymgeiswyr gadw mewn cof y bydd eu gwaith yn destun craffu rheolaidd yn erbyn y safonau yn ystod tair i bum mlynedd rhaglen Gwireddu Uchelgais. Y nod yw peidio ag ateb yr holl safonau ar y cychwyn, ond cynllunio ar gyfer gwella parhaus.
Asesu
Caiff pob cais am gefnogaeth Gwireddu Uchelgais ei sgrinio yn erbyn y safonau. Bydd cynigion sy’n pasio’r prawf cychwynnol hwn wedyn yn cael eu gwerthuso’n fwy llym gan dîm Gwireddu Uchelgais, yn cael ei arwain yma gan yr Uned Ymchwil Cymdeithasol.
Bydd pob cynnig yn yr ail gam hwn, boed lwyddiannus neu beidio, yn derbyn gradd wrthrychol, annibynnol gyda chanllawiau clir am yr hyn sydd ei angen i sgorio’n uwch yn erbyn y safonau. Bydd ceisiadau llwyddiannus yn derbyn cefnogaeth gan gonsortiwm Catch22, gan gynnwys yr Uned Ymchwil Cymdeithasol, i wella eu gradd yn erbyn y safonau yn ystod cyfnod eu cefnogaeth gan Gwireddu Uchelgais.


